Yn dilyn dau gais yn ystod buddugoliaeth Gleision Caerdydd A dros Dreigiau A, mae Tom Williams yn dweud ei fod yn canolbwyntio ar chwarae dros y tîm.
Fe gychwynodd tîm Richie Rees eu hymgyrch yn y Cwpan Celtaidd gyda pwynt bonws dros eu gelynion yn Rodney Parade nos Wener.
Yn ymuno â Williams ar y sgor-fwrdd oedd ei gyd-chwaraewyr yn y tri ôl - Dan Fish ac Aled Summerhill.
Mae’r asgellwr yn mynnu bod rhaid i unigolion berfformio fel rhan o’r tîm, a gobeithio byddai hynny’n agor drysau a chyfleuon iddynt chwarae dros y tîm cyntaf.
“Fi’n hapus i sgorio dau gais ond oedd e am y tîm heddiw. Ennill oedd beth o ni eisiau gwneud felly fi’n hapus iawn gyda hynny,” meddai Williams.
“Mae’r gystadleuaeth yma yn gyfle mawr i ni, ond ni angen canolbwyntio ar y gêm o’n blaenau a peidio meddwl am unrhyw beth arall.
“Mae e yn ein dwylo ni, felly ni angen gweithio’n galed i’r tim A a gobeithio bod y cyfle yn dod.”
Bydd Gleision Caerdydd A yn teithio i Ddulyn wythnos nesaf, lle bydd y tîm yn herio Leinster A ym Mharc Energia.
Roedd Williams, wnaeth raddio o academi’r Gleision, yn hapus gyda’r rygbi ymosodol gan ei dîm nos Wener, ond mae’n disgwyl sialens galed ym mhrifddinas Iwerddon wythnos nesaf.
Dywedodd yr asgellwr: “Roedd hi’n gêm gyffrous iawn. Oedd y bois wedi dod mas a chwarae yn dda yn ystod yr hanner cyntaf
“Roedd hi’n gret i ddod mas ar gyfer yr ail hanner a ennill y gem yn ystod y 10 munud cyntaf.
“Ni eisiau chwarae yn agored a roedd ‘da ni tri-ôl cyffrous iawn gyda Dan Fish ac Aled Summerhill.
“Roeddem ni’n gweithio yn galed heb y bel i fod yn y safleoedd cywir er mwyn cael cyfle i sgorio.
“Bydd hi’n sialens mawr iawn, ond mae’r bois yn edrych ymlaen ar gyfer y trip i Dulyn.
“Gobeithio gallwn ni ddod o Dulyn gyda perfformiad da.”
Tom Williams will continue to focus on team goals, following his two-try display for Cardiff Blues A against Dragons A.
The Celtic Cup got underway at Rodney Parade on Friday, with Wales’ Capital Region securing a bonus point victory over their east Wales rivals.
Williams was joined on the scoresheet by fellow back three members, Dan Fish (2) and Aled Summerhill.
The wing insists that if individuals perform well in the team, it will put them in contention for selection in John Mulvihill’s senior side.
“I was happy to cross for two tries, but tonight was all about the team. Winning was the aim from this game, so in that sense I’m very happy,” said Williams.
“It’s a big opportunity for those of us that are involved, but we need to make sure we concentrate on the task ahead and nothing else.
“It’s all down to us and it’s in our hands. We have to work hard for the A team and hopefully that will present opportunities for the senior side.”
Cardiff Blues A travel to Dublin next week, where they will take on Leinster A at Energia Park.
The Cardiff Blues academy product was pleased with his side’s attacking rugby on Friday, but expects a difficult challenge in the Irish capital.
“It was a very exciting game. The boys came out and performed well during the first half. It was then great to be able to come out and seal the win during the second half.
“We want to play open rugby, and we had an exciting back three, with Dan Fish and Aled Summerhill in there.
“We had to work hard throughout the game to make sure we were in the correct positions, and it worked out for us with the tries.
“Next week will be a big challenge, but the boys are really looking forward for the trip to Dublin.
“It will be a tough game, but hopefully we can come back from Dublin with a good team performance before we play our first home game.”